Cysylltiadau | English  

Ymgynghoriad ynghylch Strategaeth Ddrafft Rhwydwaith Bysiau a Chludiant Cymunedol TraCC

 

 

Hanner canrif wedi Beeching - beth nesaf ar gyfer rheilffyrdd canolbarth Cymru?

Ym mis Mawrth 1963 cyhoeddwyd Adroddiad Beeching, "casgliad o syniadau i'w trafod" ei gyflwyno i Lywodraeth San Steffan. Roedd yr adroddiad hwn yn rhagflaenu oes newydd o ddiddymu rheilffyrdd a orsafoedd ledled y DU mewn oes pan ystyriwyd fod y trenau'n colli tir yn sgil traffyrdd newydd, gwelliannau i'r ffyrdd, a datblygiadau technolegol ceir, bysiau a loriau trwm, mewn oes pan nad oedd bod yn 'wyrdd' neu'n 'gynaliadwy' bwysig yng nghyd-destun cludiant.

50 mlynedd yn ddiweddarach, mae effeithiau'r adroddiad yn dal i gael eu teimlo yng Nghymru. Er bod y brif reilffordd o'r dwyrain i'r gorllewin rhwng Aberystwyth a canolbarth Lloegr yn dal i fod yno, mae llinellau eraill megis yr un a fu rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin a fyddai heddiw yn cario cludiant economaidd sylweddol, wedi hen fynd. Yn ogystal, mae'r llinell sy'n cysylltu Trawsfynydd i Flaenau Ffestiniog a llinell Dyffryn Conwy - er ei fod yno o hyd – mae’n gwneud dim byd mwy na darparu cyswllt rheilffordd potensial rhwng yr orsaf bŵer sy'n cael ei ddigomisiynu pe bai rhywbeth yn mynd o'i le yno.

Mae TraCC (Trafnidiaeth Canolbarth Cymru) yn awyddus i gefnogi ail-fywiogi teithio ar y trên yng Nghymru. Cred TraCC yn gryf y dylai cynnal a chadw a gwella unrhyw gysylltiadau rheilffyrdd presennol, a hyd yn oed edrych ar y posibilrwydd o ail-gyflwyno ac ail-ddatblygu'r rheilffyrdd a gaewyd (neu a roddwyd 'o'r neilltu') fod yn rhan allweddol o ddyheadau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y presennol a'r dyfodol.

Mae gan Canolbarth Cymru gwasanaeth trên bob 2 awr yn cysylltu 4 tref fawr yng Ngheredigion a Phowys â Sir Amwythig a Gorllewin Canolbarth Lloegr. Mae dadl gryf iawn i gyflwyno gwasanaeth bob awr, ac mae hyn yn parhau i fod yn un o'r flaenoriaethau trafnidiaeth uchaf ar gyfer cysylltiadau rhwng y dwyrain a'r gorllewin. Yn ogystal, mi fuasai sgil effeithiau positif iawn o gael gwasanaeth bob awr ar gyfer Rheilffordd Arfordir y Cambrian sy'n teithio ar hyd arfordir prysur yng Ngwynedd mewn ardal sy'n ddibynnol iawn ar dwristiaeth ac ymwelwyr i gynnal yr economi.

Mae yna hefyd rheilffordd o dan reolaeth Network Rail sydd wedi ei roi 'o'r neilltu', neu 'ar gadw' sy'n cysylltu â Trawsfynydd, Blaenau Ffestiniog a Rheilffordd Dyffryn Conwy. Credir mae ychydig iawn o waith paratoi fyddai ei angen yno i ail-agor y lein honno i ddarparu cyswllt rheilffordd bwysig rhwng yr ardal ac Arfordir Gogledd Cymru, Swydd Gaer a Glannau Mersi. Dim ond pedwar trên bob ffordd sy’n rhedeg yn ddyddiol ar Reilffordd Calon Cymru sy'n cysylltu'r gorsafoedd rheilffordd prysur yr Amwythig ac Abertawe ac yn darparu cyswllt bwysig i bobl sy'n byw yn y cymunedau gwledig iawn o ganol Powys a gogledd Sir Gaerfyrddin.

O ran y yr hen gyswllt rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin, mae TraCC o'r farn bod yn rhaid inni ddysgu o'r camgymeriadau a wnaed drwy werthu'r tir a'r seilwaith. Pe bai’n ymarferol, mi fuasai ail-agor y lein honno’n creu cyswllt rheilffordd bwysig arall i’r economi, yn ail greu cysylltiadau rhwng Aberystwyth a Sir Benfro, Abertawe a Chaerdydd. Byddai astudiaeth dichonoldeb yn cael ei groesawu.

Dywedodd Chris Wilson, Cydlynydd TraCC: "Yn y pen draw, mae'n rhaid i ni gydnabod bod y costau cynyddol o redeg car, ynghyd a gwelliannau i'n seilwaith rheilffordd presennol, a'r ffaith fod pobl yn fwy ymwybodol o deithio'n gynaliadwy bellach yn gwneud ein rhwydwaith rheilffyrdd yn fwy pwysig nag y mae'n ei wedi bod ers cyn dyddiau Beeching. Mae creu cysylltiadau trafnidiaeth da rhwng ein trefi yn rhan allweddol o'n heconomi a hebddynt mae yna beryg y gall rhai ardaloedd golli allan ar gyfleoedd busnes a chyflogaeth bwysig.”

Mae TraCC yn ar hyn o bryd yn ymwneud a nifer o gynlluniau a phrosiectau i wella a datblygu cysylltiadau trafnidiaeth o fewn canolbarth Cymru. Mae rhain yn amrywio o fynd ar drywydd cynlluniau i ail-agor 2 orsaf yn Bow Street a Carno, gwella mynediad i lwybrau beicio, cyfnewidfeydd bysiau, gorsafoedd rheilffordd, yn ogystal a chynnal arolygon teithio gyda cyflogwyr a hyrwyddo'r defnydd o greu cynlluniau teithio i leihau'r ddibyniaeth ar y car.

Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Thomas, Cadeirydd TraCC: "50 mlynedd yn ôl mi wnaeth yr Arglwydd Beeching, gyda'i adroddiad, yn anfwriadol bwrw' pladur trwy ein rhwydwaith rheilffyrdd yng nghanolbarth Cymru. Mae'n amser i ail-hau hadau fel ein bod yn barod ar gyfer y 50 mlynedd nesaf a mwy"

 

TraCC i Ariannu Gwelliannau Mynediad i Orsaf Rheilffordd Machynlleth

Yn dilyn derbyn cymorth ariannol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru eleni, mae TraCC yn falch iawn o allu cyhoeddi ei fod yn gallu darparu arian cyfatebol tuag at cynllun 'Mynediad i Bawb' (Haen Ganol) yng Ngorsaf Rheilffordd Machynlleth.

Bydd y cynllun yma'n help i oresgyn rhwystrau sylweddol i fynediad yr Orsaf Rheilffordd yno, yn enwedig ar gyfer teithwyr sydd ag anabledd.

TraCC yw'r Consortiwm Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer Canolbarth Cymru ac mae'n gydweithrediad llwyddiannus rhwng Ceredigion, Gwynedd a chynghorau Powys.

Daw cyllid ar gyfer y prosiect gan yr Adran Drafnidiaeth (DfT) a'r dyraniad Grant Cyfalaf (RTP) sydd gan TraCC. Darperir y Grant DfT fel rhan o raglen Mynediad i Bawb sydd yno ar gyfer gwelliannau i orsafoedd er budd y teithwyr. Cefnogodd TraCC y cais gwreiddiol ar gyfer Machynlleth i'r Adran Drafnidiaeth (DfT) ac ym mis Rhagfyr 2011 cyhoeddwyd bod y cais wedi bod yn llwyddiannus.

Mae'r cynllun yn mynd i gostio oddeutu £2.085 miliwn ac mae’n cael ei gydnabod fel un o’r cynlluniau sy’n cael blaenoriaeth yn Strategaeth Rheilffyrdd TraCC. Uchafswm cyfraniad y DfT fydd £1 miliwn.

Darperir Grant Cyfalaf yr RTP i TraCC gan Lywodraeth Cymru ac mae'n cael ei ddyrannu i gynlluniau sy'n cael eu blaenoriaeth yn rhanbarthol. Cyflwynodd TraCC ei cynllun gwario ar gyfer 2014/15 i Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror ac mae'r cynigion yma ar hyn o bryd yn aros am gymeradwyaeth y Gweinidog. Mae £100,000 wedi'i ddarparu eisoes yn 2012/13 i Network Rail i ymgymeryd a cham 1 i 4 yn rhaglen GRIP (rhaglen sy’n ymwneud a gwelliannau strwythurol) ac mae £600,000 eto ar gynnig arfaethedig fel arian cyfatebol ar gyfer 2013/14 i alluogi'r gwaith
adeiladu i gychwyn.

Yn ôl Network Rail, disgwylir i'r cynllun gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2014.

Mae hyn yn newyddion da wedi blynyddoedd lawer o lobïo am welliannau gan cynghorwyr lleol a sirol, grwpiau mynediad a phartneriaeth waith lwyddiannus rhwng Network Rail, Trenau Arriva Cymru, Llywodraeth Cymru a TraCC

TraCC i weinyddu Grant Ariannu Bysiau

Mi fydd cyllid grantiau ar gyfer bysiau a thrafnidiaeth cymunedol yng Ngheredigion a Powys nawr yn cael eu gweinyddu gan gonsortiwm Trafnidiaeth Canolbarth Cymru – TraCC – yn dilyn cyhoeddiad gan Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr.

Yn dilyn adolygiad yn 2012 o'r modd y mae gwasanaethau bysiau'n cael eu ariannu, penderfynwyd y buasai'r rôl weinyddol sy' ar hyn o bryd yn cael ei weithredu gan y 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn pasio i'r 4 consortia trafnidiaeth.

Trafnidiaeth Canolbarth Cymru (TraCC) yw'r consortiwm rhanbarthol ar gyfer y canolbarth sy'n bartneriaeth cydweithredol rhwng awdurdodau lleol Ceredigion, Gwynedd a Powys.

Mi fydd TraCC yn derbyn cyllid grant yn uniongyrchol gan Llywodraeth Cymru ac mi fydd yr arian yma'n cael ei ddefnyddio i ad-dalu'r cwmnïau bysiau.

Bydd Meirionnydd yn derbyn ei chyllid RTSG fel rhan o ddyraniad Cyngor Gwynedd drwy Taith, Consortiwm Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Thomas, Cadeirydd Pwyllgor TraCC, a chynrychiolydd Cyngor Powys fod yr argymhellion a ddaeth o'r adolygiad yn debygol o fod yn fwy effeithlon ac o bosib yn gallu cynnig arbedion.

"Gall unrhyw arbedion y gallwn wneud yn y ffordd y mae'r grant yn cael ei weinyddu fynd tuag at gefnogi gwasanaethau trafnidiaeth yn ein cymunedau. Y bwriad yw i 'neud hynny, er mwyn lleihau effaith y lleihad yn yr arian sydd ar gael i ariannu trafnidiaeth gyhoeddus fel ein bod ni'n gallu parhau i ddelifro'r gwasanaethau sy' mor bwysig i bobl yn ddyddiol," ychwanegodd.

Mi fydd y drefn newydd yn disodli'r trefniant blaenorol o ddosrannu grantiau'r hen Adran Drafnidiaeth – Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (BSOG), Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Leol (LTSG) a'r Menter Tocynnau Teithio Cymunedol Rhatach (CTCFI). Mi fydd TraCC hefyd yn gweinyddu elfennau allweddol arall o'r cynllun Teithio Bws Cymreig ar Gonsesiwn.

Un o'r telerau allweddol i'r cynllun yw bod rhaid i isafswm o 10% o'r cyllid RTSG gael ei wario ar Gynlluniau Teithio Cymunedol.

Mae cwmnïau perthnasol wedi eu hysbysu am y drefn newydd gan TraCC ac mi fydd y drefniant newydd yn weithredol o Ebrill 1af.

Fel rhan o'r newidiadau mae'n ofynnol i TraCC ddatblygu a chyflwyno Cynllun Rhwydwaith Bws a Chymunedol i Llywodraeth Cymru erbyn Ionawr 2014, cynllun a fydd yn rhan o ymgynghoriad â nifer o randdeiliaid a phartneriaid. Unwaith iddo gael ei gymeradwyo, mi fydd y strategaeth yn cefnogi penderfyniadau TraCC ar wariant ei ddyraniad o'r RTSG o 2014/15.

Mae datganiad llawn y Cyn-Weinidog dros Lywodraeth Leol a Chymunedau  sy'n ymwneud â'r newidiadau yn nhrefniant cyllid ar fysiau yng Nghymru i'w weld yn: http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-business-fourth-assembly-written-ministerial-statements/dat20130117-e.pdf?langoption=3&ttl=Bus%20Services%20in%20Wales%20(PDF%2C%20189KB)

 

 

TraCC-Ffocws-05-2013.pdf

2.2 M