Yng nghyfarfod Bwrdd Trafnidiaeth Canolbarth Cymru (Trac) ar Fehefin 4ydd 2010, bu i'r Cynghorydd Sir Trevor Roberts (Barmouth, Gwynedd)
Gael ei ethol yn Gadeirydd gan gymryd yr awenau oddi wrth y Cynghorydd Sir Ray Quant (Borth, Ceredigion). Etholwyd y Cynghorydd Sir Geraint Hopkins (Gwernyfed, Powys) fel is-gadeirydd. Bydd y ddau yn gwasanaethu am gyfnod o ddwy flynedd.
Trafnidiaeth Canolbarth Cymru (Trac) yw partneriaeth cludiant rhanbarthol yr awdurdodau lleol ar gyfer Canolbarth Cymru (Ceredigion, Powys a rhanbarth Meirionnydd o Wynedd). Yn dilyn cyhoeddi ei Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol cyntaf ym mis Medi 2009 mae Trafnidiaeth Canolbarth Cymru a'i awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd ar nifer o gynlluniau a phrosiectau a ariennir drwy Raglen Gyfalaf y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Bydd y rhain yn cynnwys:
Am fwy o wybodaeth ewch i: www.tracc.gov.uk, e-bost: enquiries@tracc.gov.uk neu ffoniwch: 01970 633431.
Mae Trafnidiaeth Canolbarth Cymru (TraCC) wedi cyflwyno ei Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol cyntaf i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Lluniwyd y Cynllun yn unol a chyfarwyddyd Llywodraeth y Cynulliad ac yn dilyn cyfnod helaeth o ymgynghori, yn gwrando ar farn a syniadau rhanddeiliaid, partneriaid a'r cyhoedd.
Cynllun statudol yw'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol, sy'n pennu strategaeth drafnidiaeth integredig a chynaliadwy ar gyfer canolbarth Cymru. Mae hefyd yn ddogfen gynnig i'r Llywodraeth, gyda Rhaglen Bum Mlynedd o Fuddsoddi Cyfalaf ar fin cychwyn ym mis Ebrill 2010.
Gellir lawrlwytho Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol TraCC a'r dogfennau cysylltiedig drwy roi clic ar y dolenni cyswllt isod.
Mae copi o'r dogfennau ar gryno-ddisg ar gael yn rhad ac am ddim o Swyddfa TraCC. Mae copiau caled wedi'u rhwymo o'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a'r Atodiadau cysylltiedig ar gael am £5.00 yr un (sef £10.00 am gopi o'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a'r Atodiadau cysylltiedig). Anfonwch dal ymlaen llaw, gan wneud sieciau'n daladwy i 'TraCC RTP', i: Swyddfa TraCC, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE.
Mae copiau o'r dogfennau ar gael ar ffurf Print Bras neu Sain yn ol y gofyn.